Contact

Updates

Prosiect £10 miliwn yng Nghwm Rhymni i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yn nesau at ei derfyn yn y Deri.

Date Posted: 08.03.2023

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi buddsoddi £10 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yng Nghwm Rhymni

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi buddsoddi £10 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yng Nghwm Rhymni. Hyd yn hyn, mae’r cwmni wedi gosod tua 11km o bibellwaith newydd sbon yn Rhymni a Bargoed, a’r bwriad yw cwblhau’r gwaith buddsoddi trwy adnewyddu 2km pellach yn ardal y Deri. Mae hynny’r un hyd â 124 o gaeau pêl-droed! Bydd y pibellau newydd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn mwynhau cyflenwad diogel, dibynadwy o ddŵr yfed glân am ddegawdau i ddod.

Mae’r cwmni nid-er-elw yn parhau i gydweithio’n agos â Envolve Infrastructure a’r awdurdod lleol i gynllunio a chyflawni’r gwaith

Mae’r cwmni nid-er-elw yn parhau i gydweithio’n agos â Envolve Infrastructure a’r awdurdod lleol i gynllunio a chyflawni’r gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned lle bo modd. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio technegau arloesol fel ‘llithrleinio’ sy’n cynnwys gwthio pibell newydd trwy’r bibell gyfredol, gan osgoi’r angen am dorri ffos fawr yn y briffordd. Mae’r dechneg hon yn gynt o lawer hefyd o gymharu â dulliau mwy traddodiadol.

 

Rydyn ni’n ddiolchgar i’r gymuned am eu hamynedd wrth i ni gyflawni ein gwaith

Dywedodd Chris Moore, Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru: “Fel cwmni, rydyn ni’n buddsoddi £1.8 biliwn yn ein rhwydwaith dŵr a dŵr gwastraff er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid. Yn hynny o beth, rydyn ni wrthi’n buddsoddi £10 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yng Nghwm Rhymni. Yn ogystal â helpu i wella ansawdd ein dŵr yfed ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardal, bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn derbyn cyflenwadau dŵr yfed glân a ffres am flynyddoedd mawr i ddod.

 

“Rydyn ni’n deall bod ein gwaith wedi bod yn anghyfleus ar adegau, ac rydyn ni’n ddiolchgar i’r gymuned am eu hamynedd wrth i ni gyflawni ein gwaith. Hoffem eu sicrhau nhw y byddwn ni’n cyflawni’r cyfan cyn gynted â phosibl ac yn ddiogel.

 

Er mwyn diolch i’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith, mae’r cwmni nid-er-elw wedi dyfarnu dros £7,000 i grwpiau cymunedol yn Rhymni a Bargoed trwy ei Gronfa Gymunedol ac wedi cyfrannu £5,000 pellach at y banc bwyd lleol.

Updates

Explore related Updates

View All
Kicking off Pride with a bang!

Kicking off Pride with a bang!

Posted: 03.06.2024

Read More
We were delighted to recently welcome the Renew Holdings plc Board to the project we are carrying out on behalf of Wessex Water at Holdenhurst, on the outskirts of Bournemouth.

We were delighted to recently welcome the Renew Holdings plc Board to the project we are carrying out on behalf of Wessex Water at Holdenhurst, on the outskirts of Bournemouth.

Posted: 14.05.2024

Read More

Proud to work with